#

 

 

 

 


Birff Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-712

Teitl y ddeiseb: Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru yn y trafodaethau parhaus

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i greu Adran Ewrop fel mater o frys, â'r dasg o ddeall a datblygu strategaeth ar gyfer ymgysylltiad parhaus Cymru â'r UE a'n perthynas â phartneriaid yn Ewrop yn y dyfodol.

Ers y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae ymateb Llywodraeth y DU wedi bod yn araf ac yn amwys - cafodd uned o fewn swyddfa'r Cabinet ar gyfer gadael yr UE ei gynnig yn wreiddiol ac yna'i ddisodli gan swydd newydd, sef Gweinidog dros adael yr UE, rôl sy'n ymddangos i fod â diffyg amcanion clir, ac sy'n cael ei arwain gan AS sydd wedi treulio'r 20 mlynedd diwethaf ar y meinciau cefn.

Yng Nghymru, mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod yn dawel a dweud y lleiaf, ac mae'n bryd nawr bod Cymru ei hun yn cymryd camau fel bod y trafodaethau rhwng y DU a gweddill yr UE yn esmwyth a bod gan Gymru - buddiolwr net o aelodaeth â'r UE - rôl bendant wrth lunio ein perthynas gyda'r UE yn y dyfodol. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae Lloegr a'r Alban yn dominyddu'r holl drafodaethau gyda'r UE ehangach. Heb gynllun gweithredu strategol penodol gan Lywodraeth Cymru, mae'r sefyllfa hon yn debygol o barhau.

Dylai fod gan yr Adran hon Ysgrifennydd  Cabinet cryf sydd â phrofiad o weithio yn Ewrop ac sy'n gallu gweithio ar draws yr holl adrannau. Dylai'r Ysgrifennydd gael cefnogaeth gan bwyllgor trawsbleidiol i graffu ar bob maes ymgysylltu presennol ac i helpu i lunio ein perthynas â'r UE yn y dyfodol. Dylai'r pwyllgor hwnnw, yn ei dro, gael cyngor gan grŵp o gynghorwyr arbenigol allanol o'r sectorau cyfreithiol, economaidd, busnes, amaethyddol, diwylliannol ac academaidd.

Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru yn y trafodaethau parhaus. Rydym hefyd angen llais cryf yn Ewrop ar ôl gadael yr UE i sicrhau ein bod yn parhau i elwa a chyfrannu at y meysydd yr ydym eisoes yn cymryd rhan ynddynt ac yn datblygu perthynas gyda'r UE yn y sectorau nad ydym yn hyn o bryd yn ymwneud yn llawn â hwy.

 

Cefndir

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i Brydain yn gadael yr UE wedi'i grynhoi mewn llythyr gan y Prif Weinidog i'r Pwyllgor, a chyfeirir ato isod. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban wedi penodi gweinidogion gyda chyfrifoldeb penodol dros y goblygiadau yn sgil pleidlais y DU i adael yr UE.

Mae Llywodraeth y DU wedi penodi David Davis AS fel Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr UE. David Davis AS yw'r Gweinidog dros adran 'Brexit' yn Whitehall: Yr Adran dros Adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi yn ddiweddar ei bod yn penodi Michael Russell ASA fel y Gweinidog dros Drafodaethau'r DU ar Le yr Alban yn Ewrop.

Nid yw Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi penodi Gweinidog gyda chyfrifoldeb penodol dros y maes hwn.

Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at y Pwyllgor yn ymateb i'r ddeiseb. Tra'n amlinellu ymateb cyffredinol Llywodraeth Cymru i'r bleidlais i adael yr UE, mae'n nodi:

I have established a Cabinet Sub-Committee specifically to focus on European Transition, which is supported by a European Transition Officials Group comprised of senior officials with a particularly strong direct involvement in this work. These are helping to shape the Welsh Government’s initial response to the result of the EU referendum.

I have also established a new team to co-ordinate the Welsh Government’s work and negotiating strategy, which will work closely with the Welsh Government Offices in London and Brussels.

Externally, we are setting up a European Advisory Group to advise the Welsh Government on challenges and potential opportunities for Wales arising from the UK’s decision to leave to the European Union. The Group will first meet later this month.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gwneud gwaith ar archwilio'r goblygiadau i Gymru yn sgil penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn ystod y broses o adael, mewn unrhyw berthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd ac yn y trefniadau ar ôl gadael o fewn y DU.

Cynhaliodd y Pwyllgor un sesiwn dystiolaeth gychwynnol gyda'r Prif Weinidog ar 12 Medi 2016, a bydd yn cynnal sesiwn dystiolaeth arall gydag ef ar 7 Tachwedd 2016.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.